SWANSEA WOMEN'S HISTORY WALK, 1 TAITH GERDDED HANES MENYWOD ABERTAWE, 1 2014 Val Feld AM/AC 1947 - 2001 Walk devised by/ Dyfeisiwyd y Daith Gerdded gan : Swansea Women's History Group / Grŵp Hanes Menywod Abertawe © 2014 Ann of Swansea 1764-1838 Ann o Abertawe with support from / gyda chefnogaeth INTRODUCTION CYFLWYNIAD Welcome to this Walk devised by the Swansea Women's History Group. Women’s contributions to history are often hidden or overlooked. Inclusion in Swansea Open House means that information about women's history can reach a wider audience. We have chosen some women who have influenced the community in the history of Swansea over more than 200 years, by creating a route in the very centre of the city.Some of the women are already well known: Adelina Patti and Amy Dillwyn. Some were from famous families, like Fanny Imlay. Two women have already been recognised by the City & County of Swansea through the Blue Plaque scheme: Emily Phipps and Ann of Swansea. Others merit wider recognition for the contributions they made. The result is an eclectic mix of interesting women.We are members of Archif Menywod Cymru / Women’s Archive of Wales, which promotes the recognition of women in Welsh history. Route/ Trefn y daith 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 Croeso i’r Daith Gerdded hon a ddyfeisiwyd gan Grŵp Hanes Menywod Abertawe.Yn fynych mae cyfraniadau menywod i hanes yn guddiedig neu wedi’u hesgeuluso. Trwy gael eu cynnwys yn Nhŷ Agored Abertawe gall hanes menywod gyrraedd cynulleidfa ehangach. Rydym wedi dewis rhai menywod sydd wedi dylanwadu ar y gymuned yn hanes Abertawe am dros 200 mlynedd, trwy greu taith gerdded trwy ganol y ddinas. Mae rhai o’r menywod: Adelina Patti ac Amy Dillwyn, yn adnabyddus eisoes. Roedd rhai, fel Fanny Imlay, yn hanu o deuluoedd enwog. Mae dwy o’r menywod eisoes wedi’u cydnabod gan Ddinas a Sir Abertawe trwy gyfrwng y cynllun Plac Glas: sef Emily Phipps ac Ann o Abertawe. Mae eraill yn haeddu cydnabyddiaeth ehangach oherwydd eu cyfraniadau. Mae’r canlyniad yn gymysgedd eclectig o fenywod diddorol. Rydym yn aelodau o Archif Menywod Cymru / Women’s Archive of Wales, sy’n hyrwyddo codi proffil menywod yn hanes Cymru. Name/ Enw Munition Workers / Merched y Ffatri Bowdwr Jennie Ross Ann of Swansea / Ann o Abertawe Fanny Imlay Betty Williams Emily Phipps Jessie Donaldson Rosalind Rusbridge Fisk Jubilee Singers / Cantorion Fisk Jubilee Women's Freedom League / Cynghrair Rhyddid i Fenywod Adelina Patti Cockle Women/ Menywod y Cocos Princess Lilian / Y Dywysoges Lilian Käte Bosse-Griffiths Bessie Dillwyn Eluned Gymraes Davies Amy Dillwyn Jennie & Margaret Kirkland Val Feld Published by Jazz Heritage Wales / Cyhoeddwyd gan Treftadaeth Jazz Cymru 2014 For Swansea Women's History Group/ Ar gyfer Grŵp Hanes Menywod Abertawe © ISBN 978-0-9576016-1-1 PAGE - 2 - 1. MUNITION WORKERS’ FUNERAL 1917 1. ANGLADD MERCHED Y 1917 FFATRI BOWDWR If you had been outside High Street Station, Swansea on August Bank Holiday 1917, you would have witnessed a remarkable but sombre event. On this day a train travelling from Pen-bre Munitions Factory arrived at the station carrying the coffins of two local Swansea munition workers, who had been killed (along with four others) in an explosion at the factory. These eighteen year old girls were Dorothy Mary Watson, of Port Tennant Road, and Mildred Owen, Bridge Street. They were working-class girls and yet, as the photographs of their funerals illustrate, they received a military funeral. We see the magnificent horse hearse, the Union Jack draped over the coffin and the floral tributes. We also see their fellowworkers, dressed in their munitionette uniforms marching alongside the cortege to Dan-y-Graig Cemetery in St Thomas. These two young women are named on the plaque commemorating 12 fallen munitions workers on the official Swansea Cenotaph. While we recall the fallen men of The Great War we should also remember the sacrifice of women – as nurses, in the services and munitions workers. Dorothy and Mildred’s sad story helps us to do so. Petaech wedi bod y tu allan i orsaf reilffordd Y Stryd Fawr, Abertawe ar Ŵyl y Banc Awst 1917, byddech wedi gweld golygfa ryfeddol a dwys iawn. Ar y diwrnod hwnnw cyrhaeddodd trên o Ffatri Bowdwr Pen-bre'r orsaf yn cario eirch dwy ferch leol o Abertawe a laddwyd (ynghyd â phedwar arall) mewn ffrwydrad yn y ffatri honno. Deunaw oed oedd Dorothy Mary Watson o Heol Port Tennant a Mildred Owen o Heol y Bont pan laddwyd hwy. Er mai merched dosbarth gweithiol oedden nhw, fel y dengys y ffotograffau o’u hangladd, cawsant angladdau milwrol. Gwelwn yr hers geffylau fawreddog, baner Jac yr Undeb dros yr arch a’r torchau blodau lluosog. A gwelwn eu cydweithwyr yn gorymdeithio yn eu dillad swyddogol bob ochr i’r hers ar ei ffordd i Gladdfa Dan-ygraig yn San Tomos. Enwir y ddwy ferch ifanc hyn ar y plac i goffáu deuddeg o weithwyr y ffatrïoedd arfau ar gofeb ryfel swyddogol Abertawe. Wrth goffáu’r dynion a gollwyd yn y Rhyfel Mawr dylem gofio aberth y menywod hefyd yn nyrsys, yn y lluoedd arfog a gweithwyr y diwydiant arfau. Mae stori drist Dorothy a Mildred yn ein helpu i wneud hynny. PAGE - 3 - 2. JENNIE ROSS Woman Patrol 1916 Patrolwraig Born in Wolverhampton, Jennie Ross was a skilled tailoress active in fighting for improved conditions and pay for women in her trade. Moving to Swansea, first Mumbles, then Mayhill, she became a keen member of the Co-operative movement but disliked ‘bossy’ male domination of the local Labour Party. She was one of the joint founders of the Swansea branch of the Women's Freedom League (WFL) in 1909. She performed as a Herald in the Pageant of Famous Women, in the Albert Hall in May 1910. One of the few working class women in the WFL, she took part in a number of militant protests, including the Census boycott of 1911. [See sections 6, 10, 18]. In 1916 Jennie became a Woman Patrol of the National Union of Women Workers. They were volunteers who worked to discourage prostitution and protect young women from moral danger by ‘hang[ing] about in a pointed manner’ wherever they saw men trying to fraternise with girls, particularly in The Strand, near the docks and, during the First World War, an Army camp in Brynmill. Together with the WFL they campaigned for a women’s police force. Swansea Woman Patrols were invited to a Buckingham Palace Garden Party for war workers. 1916 Ganed Jennie Ross yn Wolverhampton. Teilwres ydoedd wrth ei chrefft a bu’n brwydro dros wella amodau a thâl menywod yn y grefft honno. Wedi symud i Abertawe, i’r Mwmbwls yn gyntaf ac yna i Mayhill, daeth yn aelod brwd o’r mudiad Cydweithredol, ond nid oedd yn hoff o’r dynion trahaus oedd yn dominyddu’r Blaid Lafur leol. Roedd yn un o gyd-sefydlwyr cangen Abertawe o'r Gynghrair Rhyddid i Fenywod (WFL) yn 1909. Cymerodd ran yn y Pasiant Menywod Enwog yn Neuadd Albert ym mis Mai 1910. Roedd hi ymhlith yr ychydig fenywod dosbarth gweithiol yn y Gynghrair a bu’n gweithredu mewn sawl protest filwriaethus, gan gynnwys Boicot Cyfrifiad 1911. [Gweler adrannau 6, 10, 18] Yn 1916 daeth Jennie Ross yn Batrolwraig gydag Undeb Cenedlaethol y Gweithwragedd. Gwirfoddolwyr oeddynt a geisiai atal puteindra a gwarchod merched ifanc rhag peryglon moesol ‘trwy hongian o gwmpas mewn modd pwrpasol’ ble bynnag y gwelent ddynion yn ceisio cyfeillachu â menywod, yn enwedig ar Y Strand, ger y dociau, a ger y gwersyll milwrol yn Bryn-mill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyda’r Gynghrair buont yn ymgyrchu am heddlu benywaidd. Gwahoddwyd Patrolwragedd Abertawe i Arddwest ar gyfer gweithwyr y rhyfel ym Mhalas Buckingham. PAGE - 4 - 3. ANN OF SWANSEA 1764 - 1838 ANN O ABERTAWE Author Awdur Ann Julia Hatton, née Kemble, was a daughter of the Kemble theatrical family and sister of famous actress Sarah Siddons. The victim of a bigamous marriage, her early life in London was colourful and sometimes scandalous. After her second – and legal – marriage to William Hatton the couple lived in New York before settling in Swansea to run the Bathing House. Ever resourceful, after her husband’s death she briefly ran a dancing school in Kidwelly before returning to Swansea for the rest of her life. She supported herself as a writer using the penname ‘Ann of Swansea’, producing 15 romantic and gothic novels which enjoyed great popularity, many poems and other short pieces. During this period of her life she lived in Park Street, a fashionable part of Swansea. She died aged 74 and was buried in St John’s churchyard (now St Matthew’s) in High Street. Two portraits of Ann exist, in the Glynn Vivian Art Gallery and Swansea Museum. Also in the Swansea Museum collection is her Album, a scrapbook with mementoes of her life, her family and friends which she compiled in 1836, a bound book of handwritten poems dedicated to her friend Dr Douglas Cohen, also of Swansea, and several of her published novels. In July 2014 a Blue Plaque to commemorate Ann of Swansea was placed on County Hall near the site of the Bathing House. Roedd Ann Julia Hatton, Kemble gynt, yn aelod o deulu theatraidd Kemble ac yn chwaer i’r actores enwog, Sarah Siddons. Priododd figamydd, ac roedd ei bywyd cynnar yn Llundain yn lliwgar a llawn sgandal. Ar ôl priodi’n gyfreithiol yr eildro â William Hatton, buon nhw’n byw yn Efrog Newydd, cyn ymsefydlu yn Abertawe i redeg y Baddondy. Pan fu farw ei gŵr, a hithau’n gymeriad dyfeisgar, bu’n rhedeg ysgol ddawnsio yng Nghydweli am gyfnod byr, cyn dychwelyd i fyw yn Abertawe am weddill ei hoes. Yma, bu’n ei chynnal ei hun fel awdur, gan ei galw’i hun yn ‘Ann o Abertawe’. Cynhyrchodd bymtheng nofel ramantus a gothig, a oedd yn boblogaidd iawn, yn ogystal â llawer o gerddi a darnau byrrach. Yn ystod y cyfnod hwn trigai yn Stryd y Parc, ardal ffasiynol o Abertawe ar y pryd. Bu farw yn 74 oed a’i chladdu ym mynwent Eglwys Sant Ioan (a elwir bellach yn Eglwys Sant Matthew) yn Y Stryd Fawr. Ceir dau bortread o Ann, un yn Oriel Gelf y Glynn Vivian a’r llall yn Amgueddfa Abertawe. At hyn, mae ei Halbwm, llyfr sgrap yn cynnwys cofnodion am ei bywyd, ei theulu a’i ffrindiau a ysgrifennodd yn 1836, cyfrol wedi’i rhwymo o’i cherddi yn ei llawysgrifen, a gyflwynwyd i’w chyfaill Dr Douglas Cohen, yntau o Abertawe, a nifer o’r nofelau a gyhoeddodd, yn yr Amgueddfa hefyd. Ym mis Gorffennaf 2014 gosodwyd plac er cof am Ann o Abertawe ar Neuadd y Sir, ger safle’r Baddondy. PAGE - 5 - 4. FANNY IMLAY 1794 - 1816 A Tragic Swansea Link Born 1794 in Paris, daughter of Mary Wollstonecraft, author of A Vindication of the Rights of Woman, and Frank Imlay, an American visiting Paris. Imlay later abandoned Mary and Fanny. Mary Wollstonecraft attempted suicide but was saved. She later married philosopher William Godwin but died giving birth to their child, Mary Godwin. Fanny Imlay and her half-sister Mary Godwin grew up in a bohemian community of artists, thinkers and writers. In 1814 Mary Godwin eloped with the married poet Shelley. The disgrace of this to the family meant that the motherless Fanny was now unable to find employment as a governess. Fearful of bringing shame on her famous mother’s name, in 1816 Fanny left home leaving a note which suggested that she intended suicide. She travelled to Swansea by coach, arriving late at night and taking a room in the Mackworth Hotel in Wind Street. The next morning the chambermaid found her dead in her room, having taken an overdose of laudanum. As a suicide, she was buried outside the walls of St John's Church (now St Matthew's).Fanny seems to have felt unwanted for most of her life, having lost both father and mother at an early age, and eclipsed at home by her more lively and attractive sister Mary. Mary Godwin later married her lover Shelley, and wrote the novel Frankenstein. Shelley drowned in 1822. Cysylltiad Trasig ag Abertawe Ganed Fanny Imlay, merch Mary Wollstonecraft, awdur A Vindication of the Rights of Woman, a Frank Imlay, Americanwr ar ymweliad â Pharis, ym Mharis yn 1794. Yn ddiweddarach, cefnodd e ar Mary a Fanny. Ceisiodd Mary gyflawni hunanladdiad ond cafodd ei hachub. Yna, priododd hi’r athronydd William Godwin ond bu farw ar enedigaeth eu merch, Mary Godwin. Magwyd Fanny Imlay a’i hanner chwaer, Mary, mewn cymuned fohemaidd o artistiaid, meddylwyr ac awduron. Yn 1814 rhedodd Mary ymaith gyda’r bardd priod, Shelley. Dygodd hyn anfri ar y teulu ac ni allai Fanny gael gwaith fel athrawes gartref, mwyach. Yn ei gwewyr, rhag dod â gwarth ar enw ei mam enwog, gadawodd Fanny ei chartref yn 1816, gan adael nodyn a awgrymai’i bod yn bwriadu cyflawni hunanladdiad. Teithiodd ar goets i Abertawe, gan gyrraedd gwesty’r Mackworth yn Stryd y Gwynt yn hwyr y nos a chymryd ystafell yno. Fore trannoeth darganfu morwyn hi’n farw yn ei hystafell, wedi cymryd gorddos a lodnwm. Gan iddi ei lladd ei hun, fe’i claddwyd y tu allan i furiau Eglwys Sant Ioan (Sant Matthew yn awr). Ymddengys bod Fanny wedi teimlo ar hyd ei hoes nad oedd neb ei heisiau, gan iddi golli ei thad a’i mam yn ifanc, a chan fod ei chwaer, Mary Godwin, yn fwy bywiog a deniadol na hi ac yn ffefryn yn y cartref. Yn ddiweddarach priododd Mary ei chariad Shelley, ac ysgrifennodd y nofel Frankenstein. Boddodd Shelley yn 1822. PAGE - 6 - 5. BETTY WILLIAMS 1918 - 1998 Supporter of the Homeless Cynheilydd y Digartref Post Second World War, Betty became known as someone who would assist street homeless people. Her home was in Bryn-y-Mor Road where she lived until her death. It was whilst running a silver service café with her husband Rob, in St Helen’s Road, that she began to notice the needs of the homeless. She was very generous. Homeless men would enjoy a sustaining meal before playing chess at the cafe until the early hours. Betty realised that more assistance was required and encouraged young volunteers to set up soup runs around the city where homeless men and women slept. With others, she established Swansea Cyrenians, a homeless Charity in May 1974. In the early days Betty was the Treasurer. She remained a leading supporter until her death, although in later years she was listed as a retired trustee. ‘The Cyrenians would not have come about if it were not for the tireless efforts of Betty Williams, who did as much as anyone in Wales to raise the issue of homelessness.’ (Conrad Watkins, Cyrenians’ Director) In recognition of her work, the Cyrenians’ project for older people is named ‘Ty Betty Williams.' Wedi’r Ail Ryfel Byd, daeth Betty yn adnabyddus am helpu’r digartref oedd ar y stryd. Trigai yn Heol Bryn-y-môr, ac yno y bu farw. Pan oedd yn rhedeg caffe gwasanaeth arian gyda’i gŵr, Rob, yn Heol San Helen, dechreuodd sylwi ar anghenion y digartref. Roedd hi’n hael iawn. Byddai dynion digartref yn mwynhau pryd o fwyd maethlon cyn chwarae gwyddbwyll yn y caffe tan oriau mân y bore. Sylweddolodd Betty fod angen mwy o gymorth ac anogodd wirfoddolwyr ifainc i sefydlu llwybrau cawl o gwmpas y ddinas, lle cysgai dynion a menywod digartref. Gydag eraill, sefydlodd Cyreniaid Abertawe, elusen i’r Digartref, ym mis Mai 1974. Yn y dyddiau cynnar, Betty oedd y Trysorydd. Parhaodd yn un o’u prif gefnogwyr tan ei marwolaeth, er mai fel ymddiriedolwraig wedi ymddeol y rhestrir hi yn ddiweddarach. ‘Ni fyddai’r Cyreniaid wedi bodoli heb ymdrechion diflino Betty Williams, a wnaeth gymaint ag unrhyw un yng Nghymru i godi mater y digartref.’ (Conrad Watkins, Cyfarwyddwr y Cyreniaid) I gydnabod ei gwaith, gelwir prosiect y Cyreniaid ar gyfer yr henoed yn ‘Tŷ Betty Williams.’ PAGE - 7 - 6. EMILY PHIPPS 1865 - 1943 Headmistress & Suffragette Prifathrawes & Swffragét Born in Devonport, Emily Phipps’ teaching career started as a pupil teacher, followed by teacher training in London before obtaining a first class London University degree in Greek and Latin. She was appointed Headmistress of the then poorly performing Swansea Higher Grade Girls' School in 1895, and rapidly raised standards. She was a founder-member of the National Union of Women Teachers (NUWT), the first Editor of their journal, and a committed supporter. In 1908 Emily joined the Women's Freedom League, outraged by David Lloyd George's anti-suffrage behaviour at a public meeting in Swansea's Albert Hall. She was a founder member of the WFL Swansea Branch in 1909. [See also 2, 10, 18] As part of the campaign for Votes for Women, Emily boycotted the 1911 Census, spending the night with friends in a Gower sea-cave. When women over 30 achieved the parliamentary vote in 1918, Emily stood for Parliament as an Independent supported by the NUWT. Although unsuccessful, she retained her deposit. She then studied law and was called to the Bar at 60 years of age. After resigning as Headmistress in 1925 due to ill health, she worked for the NUWT as Standing Counsel. In November 2013 a Blue Plaque to commemorate Emily Phipps was placed on the Orchard Health Centre, Trinity Place at the site of the School. Ganed Emily Phipps yn Devonport, Dyfnaint. Dechreuodd ar ei gyrfa yn ddisgybl-athrawes, cyn hyfforddi’n athrawes yn Llundain ac ennill gradd ddosbarth cyntaf mewn Lladin a Groeg o Brifysgol Llundain. Yn 1895 cafodd ei phenodi yn Brifathrawes Ysgol Uwchradd y Merched Abertawe, a oedd yn perfformio’n wael ar y pryd a chododd y safon o fewn byr amser. Roedd hi’n un o aelodau sylfaenol Undeb Cenedlaethol yr Athrawesau (NUWT), Golygydd cyntaf ei gylchgrawn ac yn gefnogwraig ymroddedig. Yn 1908 ymunodd Emily â Chynghrair Rhyddid i Fenywod. Gwylltiwyd hi gan ymddygiad gwrthryddfreinio menywod David Lloyd George mewn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Albert, Abertawe. Yn 1909, roedd yn un o aelodau sylfaenol Cangen Abertawe o’r Gynghrair. [Gweler 2, 10, 18 hefyd] Fel rhan o’r ymgyrch dros Ryddfreinio Menywod boicotiodd Emily Gyfrifiad 1911 a threuliodd noson gyda ffrindiau mewn ogof ar arfordir Gŵyr. Pan ganiatawyd y bleidlais i fenywod dros 30 yn 1918, safodd Emily yn ymgeisydd Annibynnol, gyda chefnogaeth Undeb Cenedlaethol yr Athrawesau. Er na fu’n llwyddiannus, cadwodd ei hernes. Ar ôl ymddiswyddo o swydd Prifathrawes yn 1925 oherwydd ei hiechyd, gweithiodd dros yr Undeb yn Gwnsler Sefydlog. Ym mis Tachwedd 2013 gosodwyd plac glas i goffáu Emily Phipps ar Ganolfan Iechyd Orchard, Trinity Place ar safle’r Ysgol. PAGE - 8 - 7. JESSIE DONALDSON 1799 - 1889 Abolitionist Diddymydd Jessie was born to Samuel, a lawyer, and Jennet Heineken, staunch Unitarians and Abolitionists, living at Dynevor Place, Swansea. In about 1824 Jessie opened a school for Young Ladies and Young Gentlemen at 32 Wind Street. Jessie married her cousin Francis Donaldson visiting from Cincinnati in July 1840, and they set up home in 9 Grove Place, Swansea. They emigrated back to Cincinnati in 1856 when Jessie was 57, and built their home "Clermont" on the banks of the Ohio River. This became the third Welsh safe house for runaway slaves, joining "Frandon" (Jessie’s aunt’s safe house) and "Penmain" (Jessie's cousin’s safe house). Jessie became involved in international politics with Harriet Beecher Stowe, author of Uncle Tom’s Cabin; Levi Coffin, Quaker and Abolitionist; Frederick Douglas, freed slave and campaigner for Negro and Women’s Rights; William Lloyd Garrison, Abolitionist; and Ellen & William Craft, freed slaves who lectured at Mount Pleasant Chapel. After the end of the American Civil War, Jessie and Francis returned home to 2 Phillips Parade, Swansea. It was probably Jessie who invited the Fisk Jubilee Singers, freed slaves, to perform at the Swansea Music Hall, now the Albert Hall, in 1874 and 1875 [see section 9]. Jessie died at Ael y Bryn (demolished), Sketty, aged 90. Ganed Jessie yn ferch i Samuel, cyfreithiwr, a Jennet Heineken, Undodiaid a Diddymwyr pybyr, a drigai yn Dynevor Place, Abertawe. Tua 1824, agorodd Jessie ysgol i foneddigesau a bonheddwyr ifainc yn 32 Stryd y Gwynt. Priododd Jessie ei chefnder Francis Donaldson a oedd ar ymweliad o Cincinnati ym mis Gorffennaf 1840, ac ymgartrefon nhw yn 9 Grove Place, Abertawe. Ymfudon nhw’n i Cincinatti yn 1856, pan oedd Jessie’n 57 oed, ac adeiladu’u cartref "Clermont" ar lan afon Ohio. Hwn oedd y trydydd tŷ diogel Cymreig ar gyfer caethweision ar ffo, ynghyd â "Frandon" (tŷ diogel modryb Jessie) a "Penmain" (tŷ diogel cefnder Jessie). Daeth Jessie i ymwneud â gwleidyddiaeth ryngwladol ar y cyd â Harriet Beecher Stowe, awdur Uncle Tom’s Cabin; Levi Coffin, Crynwr a Diddymydd; Frederick Douglas, caethwas rhydd ac ymgyrchydd dros Hawliau’r Negroaid a Menywod; William Lloyd Garrison, Diddymydd; ac Ellen & William Craft, caethion rhydd a ddarlithiodd yng Nghapel Mount Pleasant. Ar ôl i Ryfel Cartref America orffen, dychwelodd Jessie a Francis adre i 2 Parêd Phillips, Abertawe. Mae’n debygol mai Jessie wahoddodd Gantorion Fisk Jubilee, caethion rhydd, i berfformio yn Neuadd Gerdd Abertawe, Neuadd Albert, yn 1874 a 1875 [gweler adran 9]. Bu farw Jessie yn Ael y Bryn (dymchwelwyd), Sgeti, yn 90 oed. PAGE - 9 - 8. ROSALIND RUSBRIDGE (née BEVAN) 1915 - 2004 Pacifist Heddychwraig Rosalind Bevan, a socialist and Christian pacifist with a first class degree from Oxford University, was Classics mistress at Glanmor Girls’ School. With others she formed a pacifist group before the war, held public meetings at which she was the 'youth speaker', and rented a stall in Swansea market to sell Peace News. Opposition to the pacifists grew stronger in 1940 when the League of Swansea Loyalists was formed, which forced closure of the pacifists' market stall. Swansea Corporation created a Loyalty Oath. They resolved to suspend all employees of the Corporation who were conscientious objectors, members of the Peace Pledge Union or who held views 'in conflict with the purpose to which the nation’s effort was directed.' The Education Committee sent a letter to all school heads insisting on staff signing the Loyalty Oath. Rosalind Bevan and 18 others refused and were suspended; ten of them were women. Rosalind went to teach in Bristol, and never returned to Swansea to work. Swansea Education Committee later realised they had lost some first class teachers and withdrew the suspensions. None of the suspended teachers returned. Roedd Rosalind Bevan, sosialydd a heddychwraig Gristnogol, a chanddi radd ddosbarth cyntaf o Brifysgol Rhydychen, yn athrawes y Clasuron yn Ysgol y Merched Glan-môr. Gydag eraill ffurfiodd grŵp o heddychwyr cyn y rhyfel, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus lle'r oedd hi’n ‘siaradwraig ifanc’, a llogwyd stondin ym marchnad Abertawe i werthu Peace News. Cynyddodd y gwrthwynebiad i’r heddychwyr yn 1940 pan ffurfiwyd y League of Swansea Loyalists, a gorfodwyd yr heddychwyr i gau eu stondin yn y farchnad. Creodd Corfforaeth Abertawe Lw o Ffyddlondeb. Penderfynon nhw wahardd dros dro bob un o gyflogeion y Gorfforaeth a oedd yn wrthwynebydd cydwybodol, yn aelod o’r Peace Pledge Union neu a oedd yn coleddu barnau 'a oedd yn groes i’r nod y cyfeirid ymdrechion y genedl iddo.' Anfonodd y Pwyllgor Addysg lythyr at bob pennaeth ysgol yn mynnu bod y staff yn arwyddo’r Llw Ffyddlondeb. Gwrthododd Rosalind Bevan a 18 arall a chawsant eu diarddel dros dro; roedd deg ohonynt yn fenywod. Aeth Rosalind i ddysgu ym Mryste ac ni ddychwelodd i Abertawe. Yn ddiweddarach, sylweddolodd Pwyllgor Addysg Abertawe ei fod wedi colli rhai athrawon o’r radd flaenaf a thynnwyd y gwaharddiad yn ei ôl. Ni ddychwelodd yr un o’r athrawon a waharddwyd. PAGE - 10 - 9. FISK JUBILEE SINGERS 1874-1907 9. CANTORION FISK JUBILEE 1874-1907 Choir of Freed Slaves Côr y Caethion Rhydd Fisk University, Nashville, was the first educational establishment set up for the Education of Freed Slaves and their Children in the United States in 1866. On a fund-raising tour around Britain for their University, they had a profound impact on the people of Wales. The Jubilee Singers were usually made up of five women to three men, or six women to four men. They included the 20 year old singer, pianist and harmonium player Ella Shepherd. Ella had been separated from her mother as a baby, her mother having been ‘sold down the river.' When they started touring, Maggie Tate was fourteen, Jennie Jackson, nineteen, and Eliza Walker, fourteen. Dr. Cuyler, writing in the New York Tribune, described them as ‘living representatives of the only true native school of American music. We have long enough had its coarse caricatures in corked faces; our people can now listen to the genuine soul-music of the slave cabins, before the Lord led his children out of the land of Egypt, out of the house of bondage.' In 1874 The Fisk Jubilee Singers performed 'Weird slave songs and plantation melodies' at the Music Hall (now the Albert Hall), returning in 1875 and 1889. They returned as a Trio in 1907 fundraising ‘for the poor of Swansea.' Prifysgol Fisk, Nashville, oedd y sefydliad addysgol cyntaf ar gyfer Addysgu Caethion Rhydd a’u Plant yn yr Unol Daleithiau. Fe’i sefydlwyd yn 1866. Pan oeddent ar daith godi arian ar gyfer eu Prifysgol ym Mhrydain, gwnaethant argraff enfawr ar y Cymry. Gan amlaf byddai pum menyw a thri dyn, neu chwe menyw a phedwar dyn yng nghantorion y jiwbilî. Yn eu plith, roedd Ella Shepherd, cantores, pianydd a chwaraewraig harmoniwm 20 oed. Cawsai Ella ei gwahanu oddi wrth ei mam yn faban, pan werthwyd ei mam yn gaethferch. Pan ddechreuon nhw deithio roedd Maggie Tate yn bedair ar ddeg oed, Jennie Jackson yn bedair ar bymtheg ac Eliza Walker yn bedair ar ddeg. Disgrifiodd Dr Cuyler, a ysgrifennai i’r New York Tribune, nhw fel ‘cynrychiolwyr byw'r unig ysgol frodorol go iawn o gerddoriaeth Americanaidd. Rydym yn gyfarwydd ers tro byd â’r gwawdluniau cwrs o wynebau duon; gall ein pobl wrando’n awr ar fiwsig dilys yr enaid o gabanau’r caethion, cyn i’r Arglwydd arwain ei blant allan o wlad yr Aifft, allan o gaethiwed.' Yn 1874 perfformiodd Cantorion Fisk Jubilee 'ganeuon a melodïau rhyfedd caethion y planhigfeydd' yn y Neuadd Gerdd (Neuadd Albert yn awr), gan ddychwelyd yn 1875 a 1889. Dychwelon nhw yn Driawd yn 1907 i godi arian ‘tuag at dlodion Abertawe.' PAGE - 11 - 10. WOMEN’S FREEDOM LEAGUE 1910 10. CYNGHRAIR RHYDDID I FENYWOD 1910 The Women’s Freedom League (WFL) was a suffragette organisation which formed in London in late 1907 following a split from the Women’s Social and Political Union (WSPU), largely over the dictatorial style of leadership of Emmeline and Christabel Pankhurst. The WFL described itself as militant but non-violent, a stance taken by many protest movements which followed, including by the women of Greenham Common some seventy-five years later. The Swansea Branch of the Women’s Freedom League was formed in March 1908. Jennie Ross, Emily Phipps, Clara Neal and Margaret & Jennie Kirkland were amongst the women actively involved, and Amy Dillwyn gave financial support. [see also 2, 6,18.] The Albert Hall was frequently used for meetings, and on 5th May 1910 the spectacular Pageant of Famous Women was held. It had been created by London suffragette Cecily Hamilton and many Swansea women took part including ‘Miss Kirkland’ (the programme doesn’t say whether Margaret or Jennie) as Queen Phillipa in the Rulers’ section. The programme for the event is held by Richard Burton Archives, Swansea University as part of the Kirkland Collection. Mudiad swffragét oedd Cynghrair Rhyddid i Fenywod, a ffurfiwyd yn Llundain ddiwedd 1907 yn sgil rhwyg oddi wrth Undeb Gwleidyddol a Chymdeithasol y Menywod (WSPU), yn bennaf oherwydd arddull unbenaethol arweinyddiaeth Emmeline a Christabel Pankhurst. Honnai’r Gynghrair ei bod yn filwriaethus ond yn ddi-drais, safiad a gymerodd sawl mudiad protest wedi hynny, gan gynnwys menywod Comin Greenham tua saithdeg a phump o flynyddoedd yn ddiweddarach. Ffurfiwyd Cangen Abertawe o Gynghrair Rhyddid i Fenywod ym mis Mawrth 1908. Roedd Jennie Ross, Emily Phipps, Clara Neal a Margaret a Jennie Kirkland ymhlith y menywod gweithredol, a chafwyd cefnogaeth ariannol gan Amy Dillwyn. [Gweler 2, 6,18 hefyd.] Defnyddid Neuadd Albert ar gyfer cyfarfodydd yn aml, ac ar y 5ed Mai 1910 cynhaliwyd Pasiant ysblennydd y Menywod Enwog. Y swffragét o Lundain, Cecily Hamilton greodd y pasiant a chymerodd llawer o fenywod o Abertawe ran ynddo, gan gynnwys ‘Miss Kirkland’ (nid yw’r rhaglen yn dadlennu p’run ai Margaret neu Jennie ydoedd). Hi oedd y Frenhines Phillipa yn adran y Llywodraethwyr. Mae rhaglen y digwyddiad yn rhan o Gasgliad Kirkland, yn Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe PAGE - 12 - 11. ADELINA PATTI 1843 - 1919 Opera Singer Cantores Opera Born of Italian parents in Madrid, Spain, Madame Patti first sang in public as a child. She became a coloratura soprano, and was the world’s most prominent operatic performer throughout the last half of the 19th century. In her prime, she was paid $5,000 for each performance. In 1878 she made a home in her beloved castle of Craig-y-Nos in Abercrave, Swansea Valley, with a private theatre, fountains, and her own railway line. In September 1882 she held a concert in the Albert Hall in aid of Swansea’s respected, but financially poor, General Hospital. Madame Patti was accompanied by composer-pianist, Tito Mattei, who was described by the local newspaper, the Cambrian, as 'a consummate master of his instrument and his art.' But Adelina Patti, in her 'remarkably rich pale green satin….the effect was charming in the extreme,' with her extensive programme of songs and arias, stole the show, raising the staggering sum of £5,000 for the Hospital. (In today’s terms £500,000.) The Albert Hall, a Grade 2 Listed Building, opened in 1860 as a popular Music Hall. In the 1870s it was relaunched as the Albert Hall, a more up-market venue. Sadly it has become dilapidated. Madame Patti's Winter Garden building was donated to the people of Swansea, and is now the Patti Pavilion, in Victoria Gardens. Eidalwyr o Fadrid, Sbaen, oedd rhieni Madame Patti. Canodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf pan oedd yn blentyn. Datblygodd yn soprano goloratwra, ac yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg hi oedd y gantores opera fwyaf adnabyddus. Ym mlodau ei dyddiau, câi ei thalu $5,000 am bob perfformiad. Yn 1878 ymgartrefodd yn ei hoff gastell yng Nghraig-y-nos, Abercraf, Cwm Tawe, gyda’i theatr breifat, ei ffynhonnau a’i rheilffordd ei hun. Ym mis Medi 1882 cynhaliodd gyngerdd yn Neuadd Albert er budd sefydliad parchus ond tlawd, sef Ysbyty Cyffredinol, Abertawe. Cyfeiliwyd i Madame Patti gan y pianydd-gyfansoddwr, Tito Mattei, a ddisgrifiwyd gan y papur newydd lleol y Cambrian, fel 'meistr penigamp ar ei offeryn a’i grefft.' Ond Adelina Patti, yn ei ‘sidan gwyrdd golau cyfoethog … roedd yr effaith yn hynod ddeniadol,' gyda’i rhaglen helaeth o ganeuon ac ariâu, achubodd y blaen, a chodwyd y swm syfrdanol o £5,000 i’r Ysbyty. (Cyfwerth â £500,000 heddiw) Agorwyd Neuadd Albert, Adeilad Rhestredig Gradd 2, yn 1860 yn Neuadd Gerdd. Yn yr 1870au cafodd ei hail-lansio yn Neuadd Albert, lleoliad uwch ei statws. Yn anffodus mae wedi mynd â’i phen iddi. Rhoddwyd adeilad Gerddi Gaeaf Madame Patti i drigolion Abertawe, a dyma bellach Bafiliwn Patti, yng Ngerddi Victoria PAGE - 13 - 12. COCKLE WOMEN 12. MENYWOD Y COCOS Penclawdd cockles are famous. The cockle women who risked life and limb to gather them in the Burry Estuary contributed greatly to the economy of Swansea and Gower. Up until the 1970s, cockle women harvested cockles with hand rakes or scrapes (scrap) and riddles (shife) and travelled onto the sands on donkeys or small carts. It was back-breaking work, but the women were strong and hardy. Once back on the beach, the cockles were boiled ready to sell at Swansea market, or from door to door throughout south Wales. Penclawdd cocklers walked the nine miles to Swansea barefoot. At Yr Olchfa (the washery) Sketty, they washed their feet and donned shoes for the rest of the journey across White Stile fields (now Walter Road). They carried the cockles in pails or baskets on their heads. In later times, they caught the train from Gowerton or Penclawdd to Swansea, dressed in the traditional Welsh costume and returned on the ‘relish train’; so-called because they brought back treats for their families from the money earned on their market stalls. Cockling is still a vital industry today, though the cockles are now mainly harvested by men in landrovers, and processed in factories in Penclawdd, ready for the Swansea market. Mae cocos Pen-clawdd yn enwog. Cyfrannodd y menywod cocos, a beryglai eu bywydau i’w casglu yn aber afon Llwchwr, yn sylweddol at economi Abertawe a Phenrhyn Gŵyr. Tan yr 1970au, cynaeafai’r menywod y cocos gyda rhaca fach neu sgrap a rhidyll neu shife a theithient allan i’r aber ar gefn asynnod neu mewn ceirt bychain. Roedd e’n waith trwm a pheryglus ond roedd y menywod yn gryf a gwydn. Wedi dychwelyd i’r traeth, câi’r cocos eu berwi cyn eu gwerthu ym marchnad Abertawe neu o ddrws i ddrws ledled de Cymru. Cerddai menywod cocos Pen-clawdd y naw milltir i Abertawe’n droednoeth ond yn Yr Olchfa golchent eu traed a gwisgo’u hesgidiau ar gyfer gweddill y siwrnai ar draws caeau White Stile (Heol Walter heddiw). Carient y cocos mewn stycau neu fasgedi ar eu pennau. Yn ddiweddarach, dalient y trên o Benclawdd neu Dre-gŵyr i Abertawe, yn eu gwisgoedd Cymreig traddodiadol, gan ddychwelyd ar y trên ‘relish’ fel y’i gelwid, am eu bod yn cario rhoddion amheuthun a brynwyd gan eu henillion yn y farchnad. Mae cocsa yn dal yn ddiwydiant hollbwysig heddiw, ond bellach dynion mewn cerbydau modur sy’n cynaeafu ac mae ffatrïoedd pwrpasol i brosesu’r cocos ar gyfer marchnad Abertawe. PAGE - 14 - 13. PRINCESS LILIAN 1915 - 2013 Showgirl Princess Sioeferch a Thywysoges On 16th March 2013, Swedish television broadcast the funeral of 97year-old Princess Lilian of Sweden. The Swedish Prime Minister paid tribute: 'A much loved and appreciated member of the royal family has now passed away.' This elegant ‘Royal’ was Swansea-born Lillian Davies, daughter of pitman, William, and shop-assistant, Gladys Mary (née Curran). They lived in a midterrace house in Garden Street, once considered part of the ‘slums’, located roughly near the back entrances of today's Boots and Debenhams. Lillian helped her father with his Swansea Market stall. At age 16, she left for London to become a fashion model, as she was considered to be ‘a beauty’ and appeared in magazines such as Vogue. Then she became a singer and dancer, dropping an ‘l’ from her name. During WW2 she worked at a factory and in a hospital for wounded soldiers. In 1943 Lilian met Prince Bertil of Sweden in the Swedish Embassy in London. Bertil was too close to the throne to marry Lilian, so they lived together until marrying in 1976. She was given the title, ‘Her Royal Highness, Princess Lilian, Duchess of Halland’. Swansea people didn’t forget their ‘Lillian’ - her portrait hangs in Swansea Guildhall. Ar 16eg Mawrth 2013, darlledodd teledu Sweden hanes angladd y dywysoges 97 mlwydd oed, Lilian o Sweden. Talodd Prif Weinidog Sweden deyrnged iddi, “Mae aelod o’r teulu brenhinol a gerid ac a werthfawrogid yn fawr, wedi’n gadael.” Y Dywysoges Frenhinol hon oedd Lillian Davies, a aned yn Abertawe, yn ferch i löwr, William a Gwladys Mary (Curran gynt), gweithwraig mewn siop. Trigent mewn tŷ canol teras yn Stryd yr Ardd, a ystyrid gynt yn ‘slym’, ac a leolid rywle wrth gefn Boots a Debenhams heddiw. Byddai Lillian yn helpu ei thad ar ei stondin ym Marchnad Abertawe. Yn 16 oed aeth i Lundain i fod yn fodel byd ffasiwn, gan yr ystyrid ei bod yn hardd ac ymddangosodd mewn cylchgronau fel ‘Vogue’. Yna datblygodd yn gantores a dawnswraig, a newid ei henw i Lilian. Yn ystod y rhyfel gweithiodd mewn ffatri ac mewn ysbyty ar gyfer milwyr a anafwyd. Yn 1943 cwrddodd Lilian â’r Tywysog Bertil o Sweden yn Llysgenhadaeth Sweden yn Llundain. Roedd Bertil yn rhy agos at yr orsedd i briodi Lillian, felly buon nhw’n cyd-fyw nes priodi yn 1976. Cafodd Lilian y teitl ‘Ei Mawrhydi Brenhinol, Y Dywysoges Lilian, Duges Halland’. Nid anghofiodd trigolion Abertawe Lilian – mae darlun ohoni’n hongian yn Neuadd y Ddinas. PAGE - 15 - 14. KÄTE BOSSE-GRIFFITHS 1910 - 1998 Egyptologist & Writer Eifftolegydd & Awdur Käte Bosse-Griffiths was born in Wittenberg, later in East Germany, in 1910. She was of partly Jewish parentage but grew up as a member of the Lutheran Church, in a cultured and liberal family. Her father was an eminent gynaecologist. After graduating she joined the staff of the Egyptology and Archaeology Department in the Berlin State Museums but was dismissed when it was discovered that her mother was a Jewess. During the war her mother perished in the Nazi concentration camp in Ravensbrück. Käte arrived in Britain in 1936 and found research posts in Egyptology, at University College London, and later at the Ashmolean Museum in Oxford. It was at Oxford, that she met the Welsh scholar J. Gwyn Griffiths. They married and lived in the Rhondda and Dolgellau before settling in Sketty, Swansea. For more than 25 years she was Honorary Curator of Archaeology at Swansea Museum, where she paid special attention to the pre-historic and Roman collections and published a booklet: Twenty Thousand Years of Local History. In 1971 she was appointed Honorary Curator of the Wellcome Museum, now the Egypt Centre at Swansea University. She learned Welsh and wrote several novels and collections of short stories in her adopted language. Ganed Käte Bosse-Griffiths yn Wittenburg (Dwyrain yr Almaen wedyn), yn 1910. Deuai o linach rhannol Iddewig, ond fe’i magwyd yn yr Eglwys Lutheraidd, ac mewn teulu diwylliedig a rhyddfrydig. Roedd ei thad yn gynecolegydd enwog. Ar ôl graddio, ymunodd â staff Adran Eifftoleg ac Archaeoleg Amgueddfeydd Gwladol Berlin ond cafodd ei diswyddo pan ddarganfuwyd bod ei mam yn Iddewes. Yn ystod y rhyfel bu farw ei mam yng ngwersyll crynhoi Ravesbrück.Cyrhaeddodd Käte Brydain yn 1936 a chafodd swyddi ymchwil mewn Eifftoleg ym Mhrifysgol Llundain ac yn Amgueddfa Ashmolean, Rhydychen. Yno y cyfarfu â’r ysgolhaig o Gymro, J. Gwyn Griffiths. Priodon nhw a byw yn y Rhondda a Dolgellau cyn ymsefydlu yn Sgeti, Abertawe. Bu hi’n Guradur Anrhydeddus yn Adran Archaeoleg Amgueddfa Abertawe am dros 25 mlynedd, ac astudiodd y casgliadau cynhanes a Rhufeinig yn arbennig. Cyhoeddodd y llyfryn: Twenty Thousand Years of Local History. Yn 1971 cafodd ei phenodi yn Guradur Amgueddfa Wellcome, bellach y Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Dysgodd Gymraeg ac ysgrifennodd sawl nofel a chasgliadau o storïau byrion yn ei hiaith fabwysiedig. PAGE - 16 - 15. BESSIE DILLWYN 1819 - 1866 Ceramics Designer Cynllunydd Seramig Bessie Dillwyn was born Elizabeth De la Beche in 1819, daughter of geologist and surveyor Henry De la Beche. In 1838 she married Lewis Llewelyn Dillwyn, manager of his family's business, the Cambrian Pottery. Their daughter was Amy Dillwyn [see 17]. The De la Beche and Dillwyn families were deeply interested in science, natural history and the arts, and travelled widely. They were also unconventional in that many of the Dillwyn women shared and were active in these interests, and it is said that Bessie Dillwyn designed a range of decorative pottery called Etruscan Ware, made at the Cambrian Pottery in the late 1840s. If this is true it would have been unusual (but not unknown) for a woman of her class to work in a commercial firm. Her husband’s diary shows that she visited the works regularly, and a room in the works was known as ‘Mrs Dillwyn’s room’; a 19th century account of the Pottery says she did ‘effective service at the Cambrian during the Etruscan period’. Swansea Museum has a folder of drawings of the Greek-style pot shapes and decorations long believed to be drawn by Bessie, and she visited the British Museum which has the original Greek pottery. So there is much circumstantial evidence, but no definite proof. Some Etruscan Ware pots are in the Ceramics Gallery in Swansea Museum. The Cambrian Pottery closed in 1870. Enw morwynol Bessie Dillwyn oedd Elizabeth De la Beche, a ganwyd hi’n 1819, yn ferch i’r daearegwr Henry De la Beche. Yn 1838 priododd Lewis Llewelyn Dillwyn, rheolwr busnes y teulu, Crochendy’r Cambrian. Eu merch oedd Amy Dillwyn [gweler 17]. Roedd gan deulu De la Beche a Dillwyn ddiddordeb mawr mewn gwyddoniaeth, astudiaethau natur a’r celfyddydau, a theithion nhw’n eang. Roedden nhw’n anghonfensiynol hefyd oherwydd roedd llawer o’r menywod Dillwyn yn rhannu’r diddordebau hyn a honnir i Bessie Dillwyn gynllunio amrediad o grochenwaith addurnedig a elwid yn Llestri Etrwsgaidd, a wnaethpwyd yng Nghrochendy’r Cambrian ddiwedd yr 1840au. Os ydy hynny’n wir, byddai’n anarferol (er nad yn ddigynsail) i fenyw o’i dosbarth hi weithio mewn cwmni masnachol. Dengys dyddiadur ei gŵr iddi ymweld â’r gweithfeydd yn rheolaidd; gelwid ystafell yno yn ‘ystafell Mrs Dillwyn’; dywed adroddiad o’r 19eg ganrif am y Crochendy iddi roi ‘gwasanaeth effeithiol yn y Cambrian yn y cyfnod Etrwsgaidd’. Mae gan Amgueddfa Abertawe ffolder o luniau o siapiau potiau yn yr arddull Roegaidd ac addurniadau y credir ers tro iddynt gael eu tynnu gan Bessie; ymwelodd â’r Amgueddfa Brydeinig, lle mae crochenwaith Groegaidd gwreiddiol. Felly mae llawer o dystiolaeth amgylchiadol, ond dim prawf pendant. Mae rhai potiau Llestri Etrwsgaidd yn Amgueddfa Abertawe. Caeodd Crochendy’r Cambrian yn 1870. PAGE - 17 - 16. ELUNED GYMRAES DAVIES 1910 - 2004 Educator & Craftswoman Addysgwraig & Chrefftwraig Miss Davies, as she was always known, was born in Pontardawe, into a Welsh-speaking family; her father was manager in a local copperworks. She was appointed the first Principal of Bryn House, an Adult Education Centre which opened in 1947 in Uplands. She recognised the need to provide local people with new skills to enhance their employment prospects. Courses were run on a wide variety of crafts, and the Centre quickly gained an excellent reputation; prospective students would queue around the block at enrolment time, to guarantee their place. According to a former student, Miss Davies ‘fired everyone up’ with her enthusiasm and encouragement. Her particular passion was needlecraft. When she died she left a legacy for the National Library of Wales to manage a Wales-wide initiative to encourage adult learners to develop their creative skills, free of charge. Workshops for the first project took place in Bryn House, resulting in an amazing embroidered panel of Copperopolis, based on the 1879 Ordnance Survey map of Swansea. Eventually the embroidered panel, together with the other five creations, will be transferred to Aberystwyth, in an exhibition space named Ystafell Eluned Gymraes Davies Room. Ganed Miss Davies, fel y gelwid hi, ym Mhontardawe, i deulu o Gymry Cymraeg; roedd ei thad yn rheoli gweithfeydd copr lleol. Cafodd ei phenodi yn Bennaeth cyntaf Tŷ Bryn, Canolfan Addysg i Oedolion a agorodd yn yr Uplands yn 1947. Sylweddolodd yr angen i roi sgiliau newydd i bobl leol i hyrwyddo’u gobeithion o gael swyddi. Rhedwyd cyrsiau ar amrywiaeth eang o grefftau, ac enillodd y Ganolfan enw da iddi’i hun yn fuan; byddai darpar-fyfyrwyr yn ciwio o gwmpas yr adeilad, i sicrhau eu lle ar y cyrsiau. Yn ôl cyn-fyfyrwraig, roedd Miss Davies ‘yn tanio pawb’ gyda’i brwdfrydedd a’i hanogaeth. Ei chariad angerddol hi oedd crefft gwnïo. Pan fu farw gadawodd gymynrodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru i reoli menter Cymru-gyfan i annog dysgwyr o oedolion i ddatblygu eu sgiliau creadigol, yn rhad ac am ddim. Cynhaliwyd gweithdai cyntaf y prosiect yn Nhŷ Bryn, a chrëwyd panel brodwaith rhyfeddol o Gopropolis, yn seiliedig ar fap Arolwg Ordnans o Abertawe. Yn y pendraw, caiff y panel brodwaith, ynghyd â’r pum creadigaeth arall, eu trosglwyddo i Aberystwyth, a’u rhoi mewn gofod ar gyfer arddangosfa a elwir yn Ystafell Eluned Gymraes Davies Room . PAGE - 18 - 17. AMY DILLWYN 1845 - 1935 Writer, Industrialist, Social Benefactor Amy was born into the well-off, influential Dillwyn family in Hendrefoilan, Swansea. Her mother was Bessie Dillwyn, née De la Beche [see 15]. During the 1880s, Amy published several successful novels, all of which had a strong feminist message, and often a socially radical theme. Her best-known work is the novel The Rebecca Rioter, based on actual events at Pontarddulais toll-gate. When her father died in 1892, his spelter works in Llansamlet was nearly bankrupt. Amy saved it from collapse, concerned about the loss of 300 jobs, paying off her father’s creditors and eventually selling the company in 1905 at a considerable profit. This was pioneering work for a woman, made more difficult by the attitudes of male industrialists. She campaigned for education, supporting the Ragged School in Pleasant Street. In 1911 she supported striking seamstresses protesting the sweated conditions at Ben Evans, a major department store in Swansea. This was an important test case for the new Factory Act and was widely discussed in Parliament and the press. Amy Dillwyn called for a customer boycott of the store. Amy's preference for a practical style of clothing, and her cigar smoking also made her a well-known local character. Awdur, Diwydianwraig, Cymwynaswraig Gymdeithasol Ganed Amy i deulu cefnog a dylanwadol Dillwyn yn Hendrefoilan, Abertawe. Bessie Dillwyn, De la Beche gynt [gweler 15] oedd ei mam. Yn ystod yr 1880au, cyhoeddodd Amy sawl nofel lwyddiannus, pob un ohonynt â neges ffeministaidd gref ac â thema radical gymdeithasol, yn fynych. The Rebecca Rioter, yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn wrth dollborth Pontarddulais, yw ei nofel fwyaf adnabyddus. Pan fu farw ei thad yn 1892, roedd yr hwch bron â mynd drwy’r siop yn ei waith sinc yn Llansamlet. Achubodd Amy y gwaith rhag methu, roedd hi’n gofidio am golli 300 o swyddi, talodd gredydwyr ei thad ac yn 1905 gwerthodd y cwmni am elw sylweddol. Roedd hyn yn waith arloesol i fenyw, ac roedd yn anos fyth oherwydd agweddau diwydianwyr gwrywaidd. Bu’n ymgyrchu dros addysg, gan gefnogi Ysgol y Tlodion yn Stryd Pleasant. Yn 1911 cefnogodd streic y gwniadyddesau yn protestio yn erbyn amodau gwaith slafaidd yn siop adrannol bwysig Ben Evans yn Abertawe. Roedd hwn yn achos prawf pwysig i’r Ddeddf Ffatri newydd a thrafodwyd y streic droeon yn y Senedd ac yn y wasg. Galwodd Amy Dillwyn ar gwsmeriaid i foicotio’r siop. Gwnâi hoffter Amy o wisgo’n wahanol, a’r ffaith ei bod yn ysmygu sigâr hi’n gymeriad lleol adnabyddus hefyd. PAGE - 19 - 18. JENNIE KIRKLAND MARGARET KIRKLAND 1872 - 1930 1880 - 1966 Suffragettes, Shoe Traders Swffragetiaid, Masnachwyr Esgidiau Jane Ann (known as Jennie) and Margaret Kirkland came to Swansea with their father in 1895 and opened a shoe shop in Goat Street. The daughters were trained in the shoe trade at Clark’s Shoes, Somerset, and they ran the shop with William. The family lived in Langland where they entertained many friends involved in suffrage activities. Their visitors’ book, now in Swansea Museum, shows how their lives combined good business sense with feminist activism and a commitment to improving the lives of women and girls. Margaret Kirkland was the first woman President of Swansea Boot Trade Association, and was elected as the first woman President of Swansea Chamber of Trade. She founded the Swansea branch of the Soroptomists and became its President in 1935. Jennie and Margaret were active in the Swansea Branch of the Women’s Freedom League from its inception in 1909. Jennie was an effective President for eighteen months before her death in 1930 at 58. [See 2, 6, 10] Margaret Kirkland continued to live in Langland with Daisy Fry, who also worked in the shoe shop, until Margaret's death in 1966 aged 86. Daeth Jane Ann (a elwid Jennie) a Margaret Kirkland i Abertawe gyda’u tad yn 1905 ac agoron nhw siop yn Stryd yr Afr. Cawsai’r merched eu hyfforddi yn y fasnach esgidiau yn Siopau Clark’s, Gwlad yr Haf, a rhedent y siop gyda William. Trigent yn Langland, lle croesawent lawer o ffrindiau oedd yn ymwneud â rhyddfreinio menywod. Mae eu llyfr ymwelwyr, sydd bellach yn Amgueddfa Abertawe, yn dangos sut y cyfunent synnwyr busnes da â gweithgarwch ffeminyddol ac ymrwymiad i wella bywydau menywod a merched. Margaret Kirkland oedd Llywydd benywaidd cyntaf Cymdeithas Fasnach Esgidiau Abertawe, ac fe’i hetholwyd yn Llywydd benywaidd cyntaf Siambr Fasnach Abertawe. Sefydlodd gangen Abertawe o’r Soroptomyddion, a daeth yn Llywydd arni yn 1935. Roedd Jennie a Margaret yn gweithio’n ddyfal dros Gangen Abertawe o Gynghrair Rhyddid i Fenywod o’i sefydlu yn 1909. Bu Jennie yn Llywydd effeithiol am ddeunaw mis cyn ei marwolaeth yn 1930 yn 58 oed. [Gweler 2,6,10] Parhaodd Margaret Kirkland i fyw yn Langland gyda Daisy Fry, a weithiai yn y siop esgidiau hefyd, tan ei marwolaeth yn 1966 yn 86 oed. PAGE - 20 - 19. VAL FELD 1947 - 2001. Politician & Feminist Gwleidydd & Ffeminydd Val Feld was born Valerie Breen Turner in Bangor, North Wales. She promoted women's causes, including Swansea Women's Centre, the Multi Ethnic Women's Network (Swansea), Women in Jazz (now Jazz Heritage Wales), and many other organisations. As an active and influential member of the Labour Party, she was in a good position to champion such causes. Val founded Shelter Cymru and became the first Director. She was appointed head of the Equal Opportunities Commission for Wales in 1989, holding the post for 10 years. Val was an early signatory of the Devolution Declaration, becoming treasurer of the 'Yes' Campaign, and in 1999 the first Assembly Member for Swansea East. She was Chair of the Assembly's Economic Development Committee. First Minister Rhodri Morgan said, 'I believe I speak for the whole of Wales when I say that the death of Val Feld is a grievous blow for us all.' Ganed Val Feld (Valerie Breen Turner) ym Mangor, Gwynedd. Hyrwyddodd achosion menywod, gan gynnwys Canolfan Fenywod Abertawe, y Rhwydwaith Menywod Aml-ethnig (Abertawe), Women in Jazz (Treftadaeth Jazz Cymru yn awr) a llawer o sefydliadau eraill. Gan ei bod yn aelod dylanwadol a gweithgar o’r Blaid Lafur, roedd yn gallu hyrwyddo achosion o’r fath yn effeithiol. Sefydlodd Val Shelter Cymru a hi oedd y Gyfarwyddwraig gyntaf. Cafodd ei phenodi yn bennaeth y Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal yng Nghymru yn 1989, a bu yn y swydd am 10 mlynedd. Roedd Val yn un o lofnodwyr cynnar y Datganiad Datganoli, a bu’n drysorydd yr Ymgyrch 'Ie’, ac yn 1999 hi oedd Aelod Cynulliad cyntaf Dwyrain Abertawe. Val oedd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Economaidd y Cynulliad. Dwedodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, amdani, ‘Dwi’n credu mod i’n siarad ar ran Cymru gyfan pan ddywedaf fod marwolaeth Val Feld yn ergyd enbyd i ni i gyd.’ ----------------------------------------------------------------------------------------Further reading/ Darllen pellach • • • • • Beddoe, Deirdre, Out of the Shadows – a History of Women in Twentieth Century, Cardiff: University of Wales Press / Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, (2000) Gruffudd, Heini, Yr Erlid, Talybont: Y Lolfa, (2013), A Haven from Hitler , Talybont: Y Lolfa, (2014) Masson, Ursula, Votes for Women; the Campaign in Swansea, Minerva, RISW, Vol.1/ Cyf.1, pp. 34-39/ tt. 34-9, (1993) Rolph, Avril, Definitely not a doormat: Emily Phipps, feminist, teacher and trade unionist, Swansea History Journal/ Cylchgrawn Hanes Abertawe, (2014, forthcoming/ar ddod) Wilson, Jen, Jessie Donaldson, the Swansea Abolitionist, Minerva, RISW Vol./ Cyf. X11, (2004) PAGE - 21 - STREET PLAN 1909 CYNLLUN STRYD PAGE - 22 - Acknowledgements / Cydnabyddiaethau Route/ Trefn y daith 1 Catrin Stevens 2 Jenny Sabine 3 Jenny Sabine 4 Jenny Sabine 5 Kathryn Williams 6 Avril Rolph 7 8 Jen Wilson Jen Wilson 9 10 Jen Wilson Avril Rolph 11 Paulette Pelosi 12 13 Catrin Stevens Paulette Pelosi 14 15 Catrin Stevens Jenny Sabine 16 Gail Allen 17 Gail Allen 18 Avril Rolph 19 Deb Checkland • • • • Contributors/ Cyfranwyr Image Credits © Swansea Women's History Group © Swansea Women's History Group City and County of Swansea; Swansea Museum © Swansea Women's History Group Gwalia Housing Association & Swansea Cyrenians Institute of Education Archives, London. © Jazz Heritage Wales © Swansea Women's History Group © Jazz Heritage Wales City and County of Swansea; Swansea Museum Craig y Nos Castle www.craignoscastle.com Public Domain City and County of Swansea Heini Gruffudd © Swansea Women's History Group Bryn House Centre, City and County of Swansea © Swansea Women's History Group City and County of Swansea; Swansea Museum Deb Checkland Cydnabyddiaeth am Ddelwedd © Grŵp Hanes Menywod Abertawe © Grŵp Hanes Menywod Abertawe Dinas a Sir Abertawe; Amgueddfa Abertawe © Grŵp Hanes Menywod Abertawe Cymdeithas Dai Gwalia a Cyreniaid Abertawe Institute of Education Archives, Llundain © Treftadaeth Jazz Cymru © Grŵp Hanes Menywod Abertawe © Treftadaeth Jazz Cymru Dinas a Sir Abertawe; Amgueddfa Abertawe Castell Craig y Nos www.craignoscastle.com Eiddo cyhoeddus Dinas a Sir Abertawe Heini Gruffudd © Grŵp Hanes Menywod Abertawe Canolfan Tŷ Bryn, Dinas a Sir Abertawe © Grŵp Hanes Menywod Abertawe Dinas a Sir Abertawe; Amgueddfa Abertawe Deb Checkland Links/ Cysylltiadau www.womensarchivewales.org See Wikipedia for articles on most women in the walk. Gweler Wikipedia am erthyglau ar nifer o’r menywod yn y daith gerdded. Women's History Walks in Penarth & Barry http://www.valeofglamorgan.gov.uk http://www.smu.ac.uk/jazzheritage PAGE - 23 - ROUTE MAP Y DAITH Sequence/ Trefn 1,2 3,4,5 6 7 8 9, 10, 11 12 13 14, 15, 16 17, 18 19 Location/Lleoliad A B C D E F G H J K L Place Railway Station St Matthews Church Trinity Place Dynevor Place Girls School Albert Hall Swansea Market St Mary's Square Swansea Museum Castle Square High Street Lle Gorsaf y Rheilffordd Eglwys Sant Matthew Trinity Place Dynevor Place Ysgol y Merched Neuadd Albert Marchnad Abertawe Sgwâr y Santes Fair Amgueddfa Abertawe Sgwâr y Castell Y Stryd Fawr ISBN 978-0-9576016-1-1 Swansea Women's History Group / Grŵp Hanes Menywod Abertawe © 2014 01792- 469232 9 780957 601611 PAGE - 24 -
© Copyright 2024 Paperzz